Nid Celt (Brython)
Nid Celt (Brython)
NID CELT.
Y ddyfais Geltaidd, y Brythoniaid a’r llwybrau môr Gorllewinol.
Cefais fy magu gyda’r syniad mai Celt oeddwn, a bod ystyr arbennig i hynny. Wedi fy nrysu gan y wybodaeth fod y Celtiaid, yn ôl yr hyn a dybid, yn bobl dal â llygaid glas a gwallt golau, wnes i fyth dderbyn yr ethnigrwydd yma’n llawn, â dweud y gwir. Teimlwn yn gysylltiedig rywsut â gogledd Sbaen fel cyrchfan, ac ar brydiau roedd yn deimlad da perthyn i’r Gwyddelod a’r Albanwyr fel cyd-Geltiaid. Mae’n debyg, er gwaetha’r llu o lyfrau sydd wedi’u cyhoeddi ar themâu Celtaidd, bod haneswyr wedi amau’r term hwn ers tro byd. Am sawl rheswm, mae wedi magu gwreiddiau dwfn. Bu iddo’i ddefnyddioldeb, ond mae hanfodaeth o’r fath, yn y tymor hir, yn gyfyngol ac yn niweidiol i unrhyw hunaniaeth.
Pan ddaeth y bobl a oedd yn siarad y ffurf gynnar o’r iaith a adwaenir bellach fel ‘Cymraeg’ i’r ynysoedd hyn oddeutu 500CC rhoesant yr enw Prydein ar yr ynysoedd (‘pryd’ fel yn yr ymadrodd ‘pryd a gwedd’). Efallai mai cyfeiriad oedd hwn at bryd a gwedd trigolion yr ynys, gyda’u tatŵs a’u cyrff wedi’u peintio. Roedd y Cymry cynnar hyn, a gyrhaeddodd dros y môr, wedi meddiannu ynysoedd Prydein erbyn i’r Rhufeiniaid gyrraedd, ryw 500 mlynedd yn ddiweddarach, ac fe wnaeth y rheiny yn eu tro addasu enw’r lle i Brytein neu Britannia.
Llwyddodd y Prydeinwyr (Brythoniaid) i oroesi goresgyniad y Rhufeiniaid a datblygodd yr iaith. Câi ei siarad yn y rhan fwyaf o’r ynysoedd, fel mae’r enwau lleoedd yn awgrymu. Mudodd hefyd i Lydaw, gogledd Ffrainc, lle mai ystyr llythrennol Brittany (Breizh) yw Prydain Fach, a Phrydain Fawr (Breizh-Veur) oedd yr ynysoedd. Pan ddechreuodd cyrchoedd yr Eingl-Sacsoniaid, rhoesant yr enw Wealch (Welsh) ar y Brythoniaid, (yn golygu Estroniaid wedi’u Rhufeinio). Bu cyfnod o gyd-fyw, ac mae enwau Eingl-Sacsonaidd a roddwyd ar geyrydd ac aneddiadau Brythonaidd mewn ardaloedd sydd bellach yn Lloegr a’r Alban yn profi hyn.
Cyflwynwyd y term ‘Celt’ i ddisgrifio gweddillion y Brythoniaid Cymraeg eu hiaith, a gawsai eu gwthio i’r gorllewin gan ehangiad teyrnasoedd yr Eingl-Sacsoniaid, gan yr hanesydd a’r hynafiaethydd o Gymro, Edward Lhuyd (Llwyd) (1660-1709). Hwyrach bod teimlad cyffredinol ar y pryd y gallai’r ‘ddyfais’ hon roi darlun cywirach o rym a gogoniant y gorffennol Brythonaidd. Roedd dyfeisiau mwy dychmygus fyth wedi’u creu gan John Dee (1527-1609), Cymro, mathemategydd, sêr-ddewin, seryddwr, athronydd, ocwltydd yn llys Elizabeth 1, ac wedi’u defnyddio i ategu hawl y Frenhines i’r Byd Newydd. Y Cymro hwn oedd bathwr y term, “Yr Ymerodraeth Brydeinig”. Fel Brenhines o linach y Tuduriaid (Cymreig), hi, wrth gwrs, oedd etifedd yr orsedd Frythonaidd, disgynnydd y Tywysog Madog o Wynedd (a ymsefydlodd yng ngogledd America, yn ôl y chwedl). Ef, mae’n debyg, oedd yr ysbrydoliaeth i gymeriad Prospero yng ngwaith Shakespeare. Yn ddiweddarach, yn 1819, ychwanegodd Iolo Morganwg, Cymro a oedd yn byw yn Llundain, ei ddyfeisiau ef at y fframweithiau yr oedd yr athrylith Dee wedi’u sefydlu’n eang. Ffurfiwyd Gorsedd Beirdd Ynysoedd Prydain. Mae cyfriniaeth Geltaidd oes Victoria’n arwain yn ddi-fwlch at ddwli ‘oes newydd’ y 1960au.
Ychwanegodd y Saeson yn frwd at y myth hwn, yn gyntaf oherwydd ei fod yn eu helpu nhw i’w sefydlu’u hunain fel y “Prydeinwyr”: trawsfeddiannu’r enw, mewn gwirionedd, gan ddatgan mai’r bobloedd Brythonaidd oedd yr ‘estroniaid’, yn debyg iawn i’r modd yr oedd y Groegwyr a’r Rhufeiniaid wedi delio â’u Keltoi, sef llwyth a oedd yn byw yn neheudir Ffrainc. Felly daeth y Saeson i fod yn etifeddion mantell Groeg a Rhufain – gwareiddiedig, rhesymol, y gwir Brydeinwyr – tra gellid dosbarthu’r Cymru, Gaeliaid yr Alban a’r Gwyddelod yn bobl israddol a phriodoli iddynt nodweddion y ‘Celtiaid’ gwreiddiol fel yr ymddangosent mewn testunau Groegaidd a Rhufeinig, h.y. anwaraidd, afresymol, wedi’u gyrru gan afiaith ac, i’r un graddau, gan bruddglwyf.
Mae llu o resymau pam y glynodd y term ‘Celtaidd’ wrth bobl yr ymylon gorllewinol, fel arf masnacha yn fwyaf diweddar. Ni ellir gwadu, serch hynny, y bu cysylltiadau dros y môr rhwng gorllewin Prydain, Iwerddon, Llydaw ac ar draws Bae Biscay (Môr Gwasgwyn) i ogledd Sbaen a Phortiwgal, a chyn belled â gogledd Affrica. Mae archeoleg a phrofion DNA diweddar yn cadarnhau hyn. Fodd bynnag, nid yw galw’r bobloedd diwylliannol gysylltiedig hyn yn Geltiaid yn ddim mwy na gosod ‘tag’ arnynt o ddyddiad diweddarach – gan roi ethnigrwydd generig ffug iddynt ar yr un pryd. Llawn cystal fyddai eu galw’n Atlantiaid.